Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad, diwrnod, counter-celebration |
---|---|
Dyddiad | 1948, 1920 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Diwrnod Nakba (Arabeg: يوم النكبة Yawm an-Nakbah, sy'n golygu "diwrnod y drychineb") yw'r enw a roddir ar ddiwrnod arbennig (15 Mai) i gofio am Al Nakba, y diwrnod hwnnw yn 1948 pan gollodd y Palesteiniaid eu tir i Israel.[1]
Ym 1998 galwodd arweinydd y Palesteiniaid, sef Yasser Arafat ar ei bobl i gynnal cyfarfodydd i nodi pwysigrwydd y diwrnod.
Ar 23 Mawrth 2011, pleidleisiodd y Knesset newidiadau yng nghyllideb Llywodraeth Israel, er mwyn rhoi'r hawl iddynt leihau nawdd ariannol i unrhyw gorff neu fudiad a oedd yn ymwneud â threfniadau Diwrnod Nabka, mewn unrhyw fodd.